Beth i'w ddisgwyl ar eich ymweliad cyntaf

Apwyntiad Cyntaf

Bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Wybodaeth wedi cyrraedd y clinig. Gofynnir am eich enw a'ch manylion cysylltu, enw a chyfeiriad eich meddyg teulu, gwybodaeth ynglŷn â'r anhwylder, eich iechyd cyffredinol, hanes meddygol blaenorol ac unrhyw feddyginiaeth a gymerir gennych. Gofynnir i chi hefyd wisgo gŵn er mwyn yr archwiliad.

Cymeryd Hanes

Bydd y ceiropractydd yn cychwyn drwy ganolbwyntio ar hanes yr anhwylder. Cynnwys hyn gwestiynau manylach ynglŷn â'r broblem yn ogystal â chwestiynau am iechyd cyffredinol a hanes meddygol blaenorol. Efallai y bydd rhai cwestiynau'n ymddangos yn amherthnasol ond mae'n bwysig i'r ceiropractydd gael yr holl wybodaeth er mwyn penderfynu ar y diagnosis cywir a chynllunio'r driniaeth fwyaf addas.

Archwiliad

Bydd archwiliad yn dilyn cymeryd yr hanes. Cynnwys hwn asesiad o sut mae'r person yn dal y corff wrth sefyll, asesu terfyn y symudiad a phrofion orthopedig, niwrolegol a cheiropracteg. Efallai y bydd hefyd angen archwilio'r abdomen neu fesur curiad y galon neu bwysedd gwaed. Weithiau bydd angen profion pellach fel Pelydr-X neu sgan MRI.

Adroddiad ar y Darganfyddiadau

Yn yr adroddiad ar y darganfyddiadau trafodir canlyniadau'r profion a'r archwiliad a wnaed. Eglurir beth sy'n bod (y diagnosis) a'r hyn a'i achosodd. Bydd y ceiropractydd yn cynnig cynllun triniaeth ac yn trafod sut gall ceiropracteg helpu, beth mae'r driniaeth yn ei gynnwys, cost y driniaeth a pha mor hir y gymer i wella. Efallai y bydd y ceiropractydd yn trafod y posibilrwydd bod y symptomau'n debygol o ddychwelyd ac yn cynnig bod triniaeth ataliol neu gynhaliol yn llesol. Yn aml caiff ymarferion neu newidiadau mewn ffordd o fyw eu cynnig. Mae'n bwysig dilyn y cyngor hwn yn ofalus er mwyn gwella'n gynt a lleihau'r posibilrwydd o weld y broblem yn dychwelyd. Trafodir hefyd sgil-effeithiau'r driniaeth a'r dewis arall o driniaethau ar gael. Cewch gyfle i ofyn cwestiynau hefyd.

Triniaeth

Yn aml caiff y claf driniaeth ar yr apwyntiad cyntaf. Mae rhai cleifion yn gofyn am amser i ystyried y wybodaeth a dderbyniasant ac felly'n dewis peidio â derbyn triniaeth yn ystod yr apwyntiad cyntaf. O bryd i'w gilydd bydd rhaid cyfeirio'r claf am ymchwiliad pellach cyn gallu dechrau'r driniaeth. Rhan bwysicaf y driniaeth yw addasu'r cymalau. Yn aml defnyddia ceiropractyddion rym byr a sydyn i gyfeiriad penodol er mwyn ail adfer symudiad i'r cymal yn y cyfeiriad hwnnw. Weithiau gellwch glywed neu deimlo 'clic' neu 'bop' pan addasir y cymal. Gelwir hyn yn Ryddhad Clywadwy (Audible Release). Digwydd hyn oherwydd bod nwyon yn cael eu rhyddhau o'r hylif synofaidd (hylif y tu fewn i'r cymal) o ganlyniad i newid yn y pwysedd pan gaiff y cymalau eu haddasu. Mae sawl techneg gwahanol ar gael i addasu'r cymalau a'r cyfan yn gymedrol a diogel. Gyda thechnegau eraill fel yr Activator, Sacro-Occipital Technique a Neuroimpulse Protocol ni chlywir y Rhyddhad Clywadwy. Bydd y driniaeth hefyd o bosib yn cynnwys tyluno'r meinweoedd meddal (soft tissue massage), cymorth ar ffordd o fyw, dull o ddal y corff pan yn sefyll ac eistedd, a defnyddio gwres neu rew.