Eich ceiropractydd
Mae Anna Marie Williams BSc MSc (chiro) DC yn Ddoctor mewn Ceiropracteg. Astudiodd am radd MSc mewn Ceiropracteg ym Mhrifysgol Surrey gan raddio gydag Anrhydedd yn 2002. Mae ganddi hefyd radd BSc mewn Biocemeg o Brifysgol Sheffield a bu'n gweithio mewn Uned Gofal Dwys, sy'n arbenigo mewn clefyd yr iau, yn Ysbyty Coleg y Brenin (Kings College Hospital) yn Llundain cyn hyfforddi i fod yn geiropractydd.
Wedi graddio gweithiodd mewn clinigau ceiropracteg yn Leeds, Halifax a Harrogate cyn dychwelyd i Gaernarfon lle magwyd hi. Cymraeg yw ei hiaith gyntaf.
Cyhoeddodd Anna Marie Williams erthygl yn y Cylchgrawn Ceiropracteg Ewropeaidd ynglŷn â manteision triniaeth ceiropracteg mewn cleifion gydag osteoarthritis y clun. Mae hi'n aelod o'r Gymdeithas Ceiropracteg Brydeinig, y gymdeithas ceiropracteg fwyaf ym Mhrydain, ac wedi'i chofrestru gyda'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol, y corff rheoli ceiropractyddion ym Mhrydain.
