Beth ydy ceiropracteg?
Diffiniad y Gymdeithas Ceiropracteg Brydeinig o geiropracteg ydy:
proffesiwn gofal iechyd sylfaenol sy'n arbenigo mewn diagnosis, triniaeth a rheolaeth anhwylderau sy'n deillio o broblemau gyda'r cymalau, cyhyrau, gewynnau, tendonau a nerfau'r corff, yn bennaf rhai'r asgwrn cefn.
Gall triniaeth gynnwys nifer helaeth o dechnegau cywiro ac ystwytho i'w lle sy'n gwella'r ffordd mae'r cymalau yn cyflawni eu gwaith, yn lleihau'r boen a rhyddhau'r sbasm yn y cyhyrau. Ni fydd ceiropracteg yn defnyddio cyffuriau na llawdriniaeth.
Mae ceiropractyddion yn trin achos y broblem, nid y boen yn unig. Gall gwahanol ddigwyddiadau yn ein bywyd, fel damweiniau, anafiadau, straen gorweithio, ffordd o fyw a ffordd o ddal y corff pan yn eistedd a sefyll, rwystro'r cymalau yn yr asgwrn cefn rhag symud a gweithio yn y modd arferol. Mae hyn yn amharu ar y ffordd mae'r asgwrn cefn yn gweithio, a hefyd y modd mae'r nerfau sy'n pasio drwy'r asgwrn cefn yn gweithio, ac o ganlyniad yn achosi symptomau fel poen a stiffrwydd. Am fwy o wybodaeth ewch i Sut mae ceiropracteg yn gweithio?
Gweithia ceiropractyddion mewn dull holistig drwy ystyried bob person fel unigolyn er mwyn cynllunio'r driniaeth fwyaf addas. Gall y driniaeth amrywio o driniaeth ystwytho i'w le i dechnegau cyffyrddiad ysgafn tu hwnt, yn dibynnu ar natur cyflwr y claf a'i ddewis personol, a gall gynnwys ymarferion adferol a chyngor sut i wella'r ffordd o fyw. Mae cleifion yn rhydd i gysylltu â cheiropractydd heb gael eu cyfeirio ato gan eu meddyg teulu.
Am restr fanwl o'r anhwylderau pryd y gall ceiropracteg fod o gymorth, ewch i Beth rydym yn ei drin?
Cymwysterau
Rhaid i geiropractyddion astudio am o leiaf 4 blynedd mewn prifysgol achredig cyn ennill y cymwysterau angenrheidiol. Wedi cwblhau hyfforddiant o safon uchel rhaid iddynt gofrestru gyda'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol, corff rheoli'r proffesiwn, cyn gallu gweithio fel ceiropractydd. Mae'n ofynnol iddynt hefyd adnewyddu eu lle ar y gofrestr yn flynyddol ac er mwyn gwneud hyn rhaid cael Yswiriant Indemniad Proffesiynol, a chydymffurfio â Chanllawiau Arfer Da (Code of Practice) y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol a Safonau o Fedrusrwydd (Standards of Proficiency) sy'n cynnwys gwneud o leiaf 30 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaol (Continuous Professional Development) yn flynyddol.